Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 24 Hydref 2012

 

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(91)

 

<AI1>

1.   Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd cwestiynnau 1 i 11. Trosglwyddwyd cwestiwn 12 i’w ateb yn ysgrifenedig. Atebwyd cwestiynau 3 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

</AI1>

<AI2>

2.   Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

 

Dechreuodd yr eitem am 14.17

 

Gofynnwyd cwestiynnau 2 a 3. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl.

 

</AI2>

<AI3>

3.   Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Datganiad ar y cyd â Llywodraeth y DU ar ddiwygio'r drefn gyllido

 

Dechreuodd yr eitem am 14.24

 

</AI3>

<AI4>

4.   Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

 

Dechreuodd yr eitem am 15.09

 

Gofynnwyd y 3 cwestiwn.

 

</AI4>

<AI5>

Cynnig Trefniadol

 

Cafwyd cynnig trefniadol gan Lynne Neagle yn unol â Rheol Sefydlog 12.32 i ohirio’r ddadl fer.

 

</AI5>

<AI6>

5.   Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Dechreuodd yr eitem am 15.18

 

NDM5072 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 18 mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012; a

 

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 18, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI6>

<AI7>

6.   Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

 

Dechreuodd yr eitem am 15.19

 

NDM5076 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Lindsay Whittle (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Bethan Jenkins (Plaid Cymru).

 

NDM5077 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jocelyn Davies (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Lindsay Whittle (Plaid Cymru).

 

NDM5078 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Elin Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lle Bethan Jenkins (Plaid Cymru).

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI7>

<AI8>

7.   Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Ardoll Gwm Cnoi (Darren Millar)

 

Dechreuodd yr eitem am 15.19

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

 

NDM5046 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

 

Yn cytuno y caiff Darren Millar gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 13 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog 26.90.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

30

47

Gwrthodwyd y cynnig.

 

</AI8>

<AI9>

8.   Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf’

 

Dechreuodd yr eitem am 16.06

 

NDM5073 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Bwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2012.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI9>

<AI10>

9.   Dadl Plaid Cymru

 

Dechreuodd yr eitem am 16.54

 

Gorhiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5074 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi dull Llywodraeth Cymru o reoli adnoddau naturiol yng Nghymru, sef ar lefel yr ecosystem.

 

2. Yn cydnabod gwerth y dull rheoli ar lefel yr ecosystem i fusnesau a chymunedau, yn ogystal â’i fanteision i fioamrywiaeth.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) sicrhau bod y dull rheoli ar lefel yr ecosystem yn cael ei ddefnyddio ar draws Llywodraeth Cymru; a

 

b) hyrwyddo gwerth y dull rheoli ar lefel yr ecosystem i'r cyhoedd ac i fusnesau yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

16

48

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

</AI10>

<AI11>

Cyfnod Pleidleisio

 

Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.45

 

</AI11>

<AI12>

10.        Dadl Fer

 

NDM5075 Lynne Neagle (Tor-faen):

 

Y Storm Berffaith

Cafodd y Ddadl Fer ei gohirio gan gynnig gweithdrefnol yn gynharach yn nhrafodion y dydd.

</AI12>

<AI13>

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:48

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 6 Tachwedd 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>